Cofnodion cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ac Undeb PCS a gynhaliwyd yn Nhŷ Hywel ddydd Mawrth 21 Ebrill, 2015

Yn bresennol: Julie Morgan AC (cadeirydd); Bethan Jenkins AC; Ryland Doyle (yn cynrychioli Mike Hedges AC); Mark Major (yn cynrychioli Suzy Davies AC); Nancy Cavill (staff cymorth Julie Morgan AC); Shavanah Taj (Ysgrifennydd PCS Cymru); Siân Wiblin (Swyddog Diwydiannol PCS); Darren Williams (Swyddog Diwydiannol PCS).

Ymddiheuriadau:  Mick Antoniw AC; Rhodri Glyn Thomas AC.

1. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr anghydfod cenedlaethol gyda llywodraeth y DU ac ymateb y PCS i gael gwared â chyfleusterau 'check-off '

Rhoddodd y PCS y wybodaeth ddiweddaraf am ei anghydfod parhaus â Llywodraeth y DU dros gyfres o faterion, gan gynnwys colli swyddi, toriadau cyflog mewn termau real, preifateiddio a thoriadau yn hawliau pensiwn ein haelodau.  Roedd y rhan fwyaf o adrannau mawr Llywodraeth y DU - ond nid Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban - yn y broses o ddileu'r cyfleuster 'check-off', lle'r oedd aelodau yn arfer talu eu cyfraniadau undeb yn uniongyrchol o'u cyflogau. Roedd y PCS wedi ymateb drwy lansio ymgyrch i gael ei holl aelodau i dalu drwy ddebyd uniongyrchol ac roedd mwy na'u hanner eisoes wedi cytuno i wneud hynny. 

Yn yr Alban, roedd yr undeb wedi cael sicrwydd na fyddai dim diswyddiadau gorfodol yn y sector datganoledig ac, er bod Llywodraeth Cymru wedi addo gwneud popeth posibl i osgoi diswyddiadau gorfodol yng Nghymru, ni chafwyd sicrwydd mor glir.

Cam i’w gymryd: Y Grŵp i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn iddo ystyried gwneud gwarant ffurfiol.

2. Y diweddaraf ar faterion cyflog a staffio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 Yn  Amgueddfa Cymru / National Museum Wales , roedd y Rheolwyr yn ceisio cael gwared â'r taliadau premiwm a dderbyniwyd hyd yn hyn gan aelodau am weithio ar benwythnosau; byddai taliadau o'r fath yn cael eu cadw ar gyfer gwyliau banc ond ni fyddent mwyach yn bensiynadwy. Roeddent yn cynnig prynu allan hawliau cytundebol aelodau i'r taliadau hyn am ddwywaith swm y taliadau a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.  Roedd y Cyflog Byw bellach wedi ei roi ar waith, ond, gyda chael gwared â'r taliadau premiwm, byddai cyflog rhai aelodau yn parhau i fod 6-10% yn is. Roedd y PCS wedi cyflwyno cynigion amgen i liniaru'r niwed i'r staff sydd ar y cyflogau isaf. Disgwylid i'r aelodau bleidleisio ar y cynnig ym mis Mai.

Gofynnodd aelodau'r Grŵp am effaith y Cyflog Byw; credai'r undeb fod tua 50 o staff wedi elwa (ond daethpwyd i'r casgliad hwnnw heb ystyried effaith colled arfaethedig y taliadau premiwm).

Roedd yr undeb a'r Grŵp wedi gwneud sylwadau o'r blaen i Weinidogion ynglŷn â'r mater hwn, gan gynnwys y Gweinidog presennol, Ken Skates. Roedd Lynne Neagle wedi awgrymu'n ddiweddar y byddai'n werth gofyn am arian ychwanegol o gyllideb Addysg Llywodraeth Cymru, oherwydd rôl addysgiadol yr Amgueddfa. 

Camau i’w cymryd: Bethan i godi'r materion gyda Ken Skates yn ei chyfarfod arfaethedig mewn perthynas â'r Bil Treftadaeth; y PCS i ofyn i Suzy Davies a Peter Black wneud yr un modd, fel llefarwyr y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ddiwylliant. Julie i gysylltu â Lynne Neagle er mwyn dilyn hynt ei chynnig ynghylch y gyllideb addysg.

Roedd proses ailstrwythuro ar y gweill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru . Roedd hyn eisoes wedi arwain at golli tua 30 o swyddi drwy ddiswyddo gwirfoddol, gyda'r posibilrwydd o golli mwy, naill ai'n wirfoddol neu'n orfodol. Bu'r cyfathrebu rhwng rheolwyr a staff dros yr ailstrwythuro'n wael, gan arwain at gryn ansicrwydd. Teimlai'r undebau llafur fod eu hymateb i ymgynghoriad y rheolwyr ar y strwythur newydd wedi cael ei anwybyddu. Roedd ganddynt hefyd bryderon bod toriadau staff yn cael effaith ganlyniadol ar rai gwasanaethau yn y Llyfrgell. Yn dilyn gweithredu diwydiannol gan y tair undeb, cytunwyd y dylai'r holl staff gael y Cyflog Byw o leiaf, ond bu materion eraill yn ymwneud ag ymgais (a wthiwyd yn ôl ers hynny) i gynyddu'r tâl i uwch reolwyr heb ymgynghori, a bygythiad i gyflog porthorion. Hefyd, roedd y Tribiwnlys Cyflogaeth wedi dyfarnu bod dau aelod uwch o'r staff wedi eu diswyddo'n annheg. O ganlyniad i hynny, cafodd 'ymchwiliad annibynnol' ei gyhoeddi gan y rheolwyr ac roedd gan y PCS rai pryderon yn ei gylch. 

Gofynnodd aelodau'r Grŵp am effaith yr ailstrwythuro ar grwpiau penodol o staff ac effaith datblygiadau diweddar ar ysbryd y staff a chydlyniant mewnol o fewn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cam i’w gymryd: Grwp i godi materion gyda Llywodraeth Cymru.

3. Anghydfod posibl dros gael gwared â phremiymau cyflog dydd Sadwrn yng nghanolfan gyswllt y DVLA

[Datganodd Ryland Doyle fuddiant mewn perthynas â'r mater hwn, fel cynghorydd Dinas a Sir Abertawe sy'n cwmpasu'r ardal lle mae'r swyddfa wedi'i lleoli

Roedd y PCS yn ymgynghori â'i aelodau yng nghanolfan gyswllt y DVLA yng Nghwm Tawe, ar gyhoeddiad y rheolwyr na fyddai unrhyw aelod newydd o staff y ganolfan gyswllt a gyflogir ar ôl 1 Ionawr 2015 yn cael lwfans recriwtio a chadw pan fyddai'n ofynnol iddo weithio ar ddydd Sadwrn. Roedd arwyddion hefyd y byddai'r lwfans hwn yn cael ei ddileu ar gyfer yr holl staff ar ôl 31 Gorffennaf. Ni chafodd y cynnig hwn ei gynnwys yn y newidiadau pellgyrhaeddol i gyflog ac amodau cysylltiedig, a gytunwyd rhwng rheolwyr yr Adran Drafnidiaeth a'r PCS yn 2014. Teimlai'r undeb fod y lwfans yn cynrychioli iawndal teg ac angenrheidiol am yr anhwylustod o orfod gweithio'n rheolaidd ar benwythnosau.

Cam i’w gymryd: Y Grŵp i gyflwyno sylwadau i Brif Swyddog Gweithredol y DVLA, Oliver Morley.

4. Pryderon ynghylch dyfodol y swyddfeydd treth yn Abertawe a Wrecsam

Roedd gan y PCS bryderon am ddyfodol y swyddfeydd treth yn Wrecsam ac Abertawe - sydd rhyngddynt yn cyflogi bron i 700 o staff - yn dilyn datganiadau gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mewn gohebiaeth ag Aelodau Seneddol, mai dim ond safle Llanisien, Caerdydd, o'r swyddfeydd yng Nghymru, oedd â thebygolrwydd cryf o gael ei gadw yn y tymor hwy. Gyda swyddfeydd Caerfyrddin, Bae Colwyn, Merthyr Tudful a Doc Penfro i gyd yn y broses o gael eu cau, y rhain fydd yr unig swyddfeydd ar ôl yng Nghymru yn fuan, ar wahân i'r swyddfa lai ym Mhorthmadog, lle mae uned iaith Gymraeg yr adran.

Mae'r PCS yn teimlo os bydd y drefn o ganoli Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn parhau, bod perygl o golli'r manteision o gael rhwydwaith o weithwyr proffesiynol treth lleol sydd wedi'u hyfforddi'n dda,  sy'n gallu nodi materion lleol, sy'n adnabod eu hardal leol ac sy'n gallu cynnig y gwasanaeth y maent yn ei haeddu i gwsmeriaid. Mae'n rhaid i gwsmeriaid Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gyfathrebu â'r adran ar-lein neu dros y ffôn fwyfwy, ac eto mae amseroedd aros canolfannau cyswllt yn cynyddu'n gyflym. Mae hyn yn gadael llawer o gwsmeriaid sy'n agored i niwed mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt unrhyw ddewis ond peidio â thalu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt heb fod unrhyw fai arnynt hwy. Mae'r datblygiadau hyn yn golygu bod y 'bwlch treth' wedi tyfu'n fwy hefyd - y gwahaniaeth rhwng faint o dreth y dylid ei chasglu a faint sy'n cael ei chasglu mewn gwirionedd. Yn ogystal, mae goblygiadau ar gyfer datganoliad rhai trethi i Gymru, sydd i ddod i rym erbyn 2018.

Camau i’w cymryd: Y Grŵp i gyflwyno sylwadau i Jane Hutt ac i Priti Patel, Ysgrifennydd y Trysorlys, sef y Gweinidog sy'n gyfrifol am Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Y PCS i ymchwilio i sibrydion am werthu safle Llanisien a throsglwyddo gwaith a staff i leoliad arall yng Nghaerdydd.

 

5. Unrhyw Fater Arall

Tynnodd y PCS hefyd sylw at Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru, yr oedd y fersiwn ddiweddaraf ohoni ar fin cael ei chyhoeddi. Roedd gan yr undeb rai pryderon ynghylch rhai o'r swyddfeydd y deellir eu bod yn wynebu cael eu cau. Roedd wedi cyfleu hyn yn flaenorol i Jane Hutt. Byddai cyfle i godi'r pryderon hyn, fodd bynnag, a chytunwyd, ar hyn o bryd, i gadw golwg ar y sefyllfa.